Rhif y ddeiseb:P-06-1298

Teitl y ddeiseb:Deiseb ar gyfer ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ymgyrch gweithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd.

Testun y ddeiseb:Yn ystod y misoedd diwethaf ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gweithredwyr hawliau trawsryweddol wedi cynnal ymgyrch aflonyddu a bygythiadau treisgar yn erbyn academyddion sy’n feirniadol o Stonewall. Rydym yn teimlo nad yw’r brifysgol na’r heddlu wedi amddiffyn yr academyddion sydd, o bosibl, yn adlewyrchu cysylltiadau’r sefydliadau hyn â Stonewall. Rydym yn galw am ymchwiliad i’r mater hwn.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos hwn i’w gweld yma:

 

 

 


1.        Cefndir

Ar 17 Mehefin 2021, llofnododd 15 academydd ym Mhrifysgol Caerdydd lythyr agored yn galw am i gyfranogiad parhaus y Brifysgol yn Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall gael ei ailystyried.

Sefydlwyd y rhaglen yn 2001 i gefnogi cyflogwyr i ymgorffori cynhwysiant LHDTC+ yn eu gweithleoedd a mynd ar y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle a’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Byd-eang, lle cânt eu meincnodi yn erbyn cwmnïau eraill. Yn 2021, daeth nifer o gyflogwyr proffil uchel, a oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen, â’u partneriaeth â Stonewall i ben. Mae’r rhain yn cynnwys corff gwarchod y cyfryngau, sef Ofcom, y BBC, Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU, a chorff gwarchod cydraddoldeb y DU, sef y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mynegodd y llythyr gefnogaeth i hawliau staff a myfyrwyr trawsryweddol, ond dywedodd fod angen i’r aelodaeth barhaus o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall gael ei adolygu ar y sail a ganlyn:

being associated with Stonewall lies in tension with two of the university’s core values: 1) academic freedom and 2) respect for the rights of all staff and students, including women.

Cafodd Prifysgol Caerdydd lythyr arall gan staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr a oedd yn gwrthwynebu’r honiadau a wnaed, gan nodi:

this is a gross misreading of the Equality Act: transphobic views, like homophobic views, are only protected beliefs – people have the right to hold these views, but Universities and other institutions have no duty to protect them from criticism or academic rigour in a democratic society.

Galwodd y llythyr ar Brifysgol Caerdydd i gyhoeddi datganiad o’r newydd yn ymrwymo i hawliau a llesiant eu staff a’u myfyrwyr LHDTC+.

1.1.            Camau a gymerwyd gan y Brifysgol

Mewn llythyr at Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ym mis Chwefror 2022 gan y Free Speech Union, darparwyd llinell amser fanwl o ddigwyddiadau ar ôl i’r llythyr agored gael ei gyhoeddi, gan gynnwys disgrifiadau o’r bygythiadau honedig yn erbyn llofnodwyr y llythyr a chyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng Dirprwy Is-Ganghellor a Chyfarwyddwr Cyfathrebu’r Brifysgol a’r camau a gymerwyd ganddynt.

Yn ôl y llythyr, ar ôl i’r llythyr gael ei gyhoeddi:

a leaflet was distributed on campus picturing a woman holding a gun, the names and pictures of the signatories, and the caption “ACT NOW”. A student whistleblower then revealed violent threats being made on the Facebook page of the Cardiff LGBT+ Society.

Dywed hefyd fod naw o’r 15 llofnodwr gwreiddiol wedi ysgrifennu at y Dirprwy Is-ganghellor ym mis Ionawr 2022 i fynegi eu hanfodlonrwydd â’r modd yr ymdriniwyd â’r mater, gan nodi bod y Brifysgol wedi anwybyddu tystiolaeth hollbwysig a:

the University is failing to uphold its legal duty under section 43 of the Education (No 2) Act 1986 to secure freedom of speech. Worse, when serious and well-evidenced concerns about this hostile campaign were brought to the University’s attention, it neglected to act, misplaced evidence, failed to conduct a timely and thorough investigation and refused to re-open the investigation when the violent threats were repeated.

Mae hefyd yn nodi i’r Dirprwy Is-Ganghellor, er gwaethaf yr ymgyrch barhaus yn erbyn yr academyddion hyn, ddod i’r casgliad nad oedd angen gwneud datganiadau pellach ar y mater hwn a bod y Brifysgol wedi gweithredu’n ‘rhesymol’ ac wedi cymryd camau ymarferol i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant yr holl staff a myfyrwyr sy’n ymwneud â’r mater hwn.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi datganiad ynglŷn â’r materion a amlinellwyd yn llythyr y Free Speech Union at Jeremy Miles.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, galwodd y Free Speech Union ar y Gweinidog i wneud y canlynol:

Consider what interpretation you might make with the Vice-Chancellor or elsewhere that could have a material impact. In particular, we would welcome any action you could take to remind Cardiff [University] of its legal duties under current legislation.

Yn ei ymateb i’r Pwyllgor Deisebau, dywedodd y Gweinidog:

Gan fod sefydliadau addysg uwch yn gyrff ymreolaethol, mae anghydfodau rhwng myfyrwyr, staff a'u prifysgolion yn fater i'r prifysgolion eu hunain. Nid yw Llywodraeth Cymru na Gweinidogion Cymru yn gallu ymyrryd felly. Mae unrhyw achosion posibl o ymddygiad annerbyniol honedig gan staff neu fyfyrwyr, yn y pen draw, yn fater i'r brifysgol fynd i'r afael â nhw o dan ei pholisïau mewnol.

Pwysleisiodd y Gweinidog y byddai’n “disgwyl i'r brifysgol barhau i fodloni’r holl ofynion deddfwriaethol o ran rhyddid i leisio barn a rhyddid academaidd a'r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.”

Dywed y Gweinidog fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), sef rheoleiddiwr statudol addysg uwch yng Nghymru, wedi derbyn “sicrwydd gan y brifysgol bod ymchwiliad trwyadl wedi cael ei gynnal i'r mater” a bod yr heddlu’n “fodlon nad oedd tystiolaeth o unrhyw dorcyfraith.”

Dywed nad oes unrhyw “dystiolaeth glir” yn llythyr y Free Speech Union fod cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol wedi cael ei thorri a bod y brifysgol wedi cyhoeddi Cod Ymarfer a’i bod felly wedi cydymffurfio ag Adran 43 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986. Dywed y Gweinidog hefyd mai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am ymchwilio i gydymffurfedd â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob prifysgol gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2020.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.